Mae Ffiji wedi sicrhau eu lle yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Japan yn 2019.

Byddan nhw’n ymuno â Chymru, Lloegr, Awstralia a Georgia yng Ngrŵp D.

Curon nhw Tonga o 14-10 yn Nuku’alofa heddiw i orffen ar frig eu grŵp rhagbrofol, Oceania.

Bydd enillydd grŵp Americas 2, sef naill ai Canada neu Wrwgwai, yn ymuno â nhw yn y grŵp.