Sam Warburton (Llun: Youtube Undeb Rygbi Cymru)
Mae prawf olaf y Llewod yn erbyn Seland Newydd ar Barc Eden yn Auckland wedi gorffen yn gyfartal 15-15 – a’r gyfres wedi gorffen yn gyfartal 1-1.

Mae’r canlyniad yn golygu mai tîm y Llewod yn 1971 yw’r tîm diwethaf o hyd i guro’r Crysau Duon mewn cyfres.

Ciciodd Owen Farrell gic gosb hir a hwyr i sicrhau’r gêm gyfartal gydag ychydig funudau o’r gêm yn weddill.

Roedd y Crysau Duon ar y blaen o 12-6 ar yr hanner ar ôl ceisiau gan Ngani Laumape a Jordie Barrett, ond methon nhw â sgorio nifer o geisiau eraill yn yr hanner cyntaf.

Ond daeth y Llewod yn gyfartal 12-12 ar ôl ciciau cosb gan Owen Farrell ac Elliot Daly i sicrhau ugain munud olaf cyffrous.

Mae’r canlyniad yn golygu nad yw Seland Newydd wedi colli ar Barc Eden ers 1994.

‘Anodd’

Ar ddiwedd y gêm, dywedodd y capten Sam Warburton: “Mae’n anodd. Pan y’ch chi’n mynd drwy’r holl emosiwn, y pwrpas yw ennill.

“Mae’n well na cholli, am wn i. O ddod yma a pheidio â cholli, gallwn ni gael clod am hynny.

“Gallwn ni gymryd ambell beth positif allan o’r gyfres gyfartal. Roedd ein disgyblaeth yn well yr wythnos hon.

“Roedd hi’n gêm wych i gael chwarae ynddi.”