Fe fydd y Llewod yn ceisio efelychu tîm 1971 wrth geisio ennill cyfres yn Seland Newydd wrth iddyn nhw herio’r Crysau Duon ar Barc Eden yn Auckland heddiw.

Bryd hynny, Carwyn James oedd yn hyfforddi, a John Dawes yn gapten; y tro hwn, Warren Gatland yw’r hyfforddwr a Sam Warburton yn gapten.

Ond yn ôl Cymro arall, yr is-hyfforddwr Rob Howley, y clo o Gymru, Alun Wyn Jones fydd prif ysbrydoliaeth y Llewod y tro hwn, wrth iddo fe chwarae yn ei nawfed gêm brawf o’r bron i’r Llewod.

Dim ond saith chwaraewr sydd wedi gwneud hynny o’r blaen yn hanes y Llewod – y prop Graham Price oedd y Cymro diwethaf i’w wneud.

Fe fydd ganddo fe bwynt i’w brofi hefyd ar ôl perfformiad siomedig yn y prawf cyntaf ar yr un cae wrth i’r Llewod golli o 30-15.

‘Criw unigryw o chwaraewyr’

Dywedodd Rob Howley: “Mae cyflawniad Alun Wyn ar y penwythnos yn rhywbeth arbennig iawn.

“Mae e’n ymuno â chriw unigryw o chwaraewyr pan edrychwch chi ar Mike Gibson, Willie John McBride, Gareth Edwards…

“Mae cyflawniad Alun Wyn dros y penwythnos yn rhywbeth hudolus. Mae’n anghredadwy.

“Mae Alun Wyn wedi bod yn rhagorol, yn amlwg mae e’n chwaraewr galluog iawn.”

Bydd e’n ymuno â Maro Itoje yn yr ail reng.