Mae’r Cymro Sam Warburton a’i gyd-flaenasgellwr Sean O’Brien yn hanfodol bwysig os yw’r Llewod am guro Seland Newydd ddydd Sadwrn i ennill y gyfres o 2-1.

Dyna farn y Cymro, Neil Jenkins, sy’n aelod o dîm hyfforddi’r Llewod o dan brif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

Fe fydd Sean O’Brien ar gael ar ôl i gomisiynydd y gêm benderfynu na fydd e’n cael ei gosbi am daro Waisake Naholo yn ystod yr ail brawf yn Wellington yr wythnos ddiwethaf.

Ac mae Neil Jenkins yn credu y bydd partneriaeth y Gwyddel â Sam Warburton yn codi i lefel newydd yn y prawf olaf yn Auckland.

Mae’r cyn-faswr yn gwybod sut brofiad yw ennill cyfres y Llewod, ac yntau’n aelod o’r garfan a drechodd Dde Affrica yn 1997.

“Weithiau, dydych chi ddim wir yn gwerthfawrogi’r hyn ry’ch chi wedi’i gyflawni yn y byd rygbi tan i chi roi’r gorau i chwarae.

“Felly dim ond ar ôl nos Sadwrn y gallwch chi ddechrau meddwl am hynny, ac efallai yn y blynyddoedd i ddod, os liciwch chi.”

Blaenasgellwyr

Wrth ganmol perfformiadau’r blaenasgellwyr yn ystod y daith, ychwanegodd Neil Jenkins: “Mae perfformiadau Sean O’Brien ar y daith hon yn adrodd cyfrolau.

“Mae e wedi bod yn rhagorol ar y daith hon. Mae e’n chwaraewr rygbi o safon fyd-eang, ac roedd e a Sam Warburton yn rhagorol yr wythnos ddiwethaf.

“Chwaraeodd y ddau yn eithriadol o dda.”

Liam Williams

Yn y cyfamser, fe ddylai Liam Williams fod yn holliach ar ôl gwella o anaf i’w goes.

Doedd e ddim wedi gallu ymarfer heddiw, ond mae Neil Jenkins yn mynnu y bydd e ar gael ar gyfer y gêm. Ond os na chaiff ei ddewis, fe allai Leigh Halfpenny wisgo crys rhif pymtheg.

Fe fydd tîm y Llewod yn cael ei gyhoeddi heno (nos Fercher) am 8 o’r gloch, ddwy awr ar ôl i Seland Newydd gyhoeddi eu tîm nhw.