Justin Tipuric (Llun: Undeb Rygbi Cymru)
Fe allai’r Cymro Justin Tipuric wisgo crys rhif saith y Llewod ar gyfer y prawf tyngedfennol yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn nesaf pe bai ei gyd-flaenasgellwr Sean O’Brien yn cael ei wahardd.

Mae e’n aros i glywed a fydd e’n cael ei gosbi am daro asgellwr y Crysau Duon, Waisake Naholo yn yr ail brawf, wrth i’r Llewod unioni’r gyfres gyda buddugoliaeth o 24-21 yn Wellington.

Bydd y prawf olaf ar Barc Eden yn Auckland.

Dywedodd Comisiynydd y gêm fod y gosb yn deilwng o gerdyn coch a’i fod yn cynnal ymchwiliad.

Bydd Sean O’Brien yn darganfod heno beth fydd ei gosb.