Mae’r Llewod wedi llwyddo i wrthsefyll pwysau gan yr Hurricanes a sicrhau gêm gyfartal o 31 – 31 yn Wellington y bore yma (dydd Mawrth, Mehefin 27).

Roedd y Llewod ar y blaen ar hanner amser o 23 – 7 gyda’r Cymro George North a Tommy Seymor o’r Alban yn sicrhau ceisiau i’r Llewod.

Llwyddodd Callum Gibbins, Ngani Laumape, Wes Goosen a Vaea Fifita sgorio i’r Hurricanes.

Cafodd y clo o Iwerddon, Iain Hederson, gerdyn melyn am dacl beryglus; ac fe gafodd maswr yr Hurricanes, Te Toiroa Tahuriorangi, gerdyn melyn am dacl uchel.

Mae’r ail brawf yn erbyn y crysau duon yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn (Gorffennaf 1) yn Stadiwm Westpac Wellington, a hynny wedi i’r Llewod golli 30 – 15 yn y prawf cyntaf ddydd Sadwrn (Mehefin 24).