Robin McBryde yw Prif Hyfforddwr Cymru ar y daith i Samoa
Mae Prif Hyfforddwr Cymru wedi canmol ei chwaraewyr wedi iddyn nhw guro Samoa 19-17. Roedd y Cymry yn fuddugol er gwaetha’r ffaith fod hanner y garfan yn sâl.

Roedd nifer o chwaraewyr ac aelodau staff tîm rygbi Cymru yn sâl cyn y gêm ac yn chwydu a phibo oherwydd dolur rhydd.

Ymysg y rhai yn dioddef roedd capten y tîm Jamie Roberts a’r cefnwr Gareth Anscombe. Dydy hi ddim yn glir be wnaeth achosi’r aflwydd.

“Mae’r daith wedi bod yn anodd dros ben mewn cyn lleied o amser,” meddai Robin McBryde, y Prif Hyfforddwr.

“Roedd gêm Tonga yn Auckland yn galed ac mae’n rhaid llwyr werthfawrogi her tîm fel Samoa.

“Roedden ni a Samoa yn wynebu trallod ac mae ychydig o’n chwaraewyr ni wedi bod yn sâl. Gallai’r bois fod wedi defnyddio hynny fel esgus ond wnaethon nhw ddim. Dw i’n falch o’n chwaraewyr.”

Mae tîm Cymru wedi ennill pob gêm dros yr haf hyd yma a hynny heb 12 o’u chwaraewyr gorau sydd ar daith y Llewod.