Mae Seland Newydd wedi enwi asgellwr 20 oed Gleision Auckland, Rieko Ioane yn eu tîm i herio’r Llewod ar Barc Eden yn y ddinas ddydd Sadwrn.

Fe sgoriodd e gais i Gleision Auckland wrth iddyn nhw guro’r Llewod o 22-16 bythefnos yn ôl.

Mae’r wythwr Kieran Read hefyd yn dychwelyd i arwain y tîm ar ôl i Ardie Savea gael ei ddewis i herio Samoa yn eu gêm ddiwethaf.

Mae’r canolwr Ryan Crotty wedi’i ddewis yn bartner i Sonny Bill Williams, wrth i Anton Lienert-Brown fynd i’r fainc er gwaetha’i berfformiad campus yn erbyn Samoa.

Does dim lle, fodd bynnag, i’r asgellwr profiadol Julian Savea, sydd wedi sgorio 46 o geisiau mewn 53 o gemau i’r Crysau Duon.

‘Hanes’

Wrth gyhoeddi’r tîm, dywedodd prif hyfforddwr Seland Newydd, Steve Hansen fod gan ei chwaraewyr “gyfle sy’n dod unwaith yn unig mewn bywyd”.

Dydy’r Llewod ddim wedi ennill cyfres yn erbyn Seland Newydd ers 1971, pan oedd y Cymro Carwyn James yng ngofal y tîm.

“Mae’r chwaraewyr yn llwyr ymwybodol o hanes y Crysau Duon a’r Llewod ac maen nhw’n benderfynol o barchu’r hanes hwnnw gyda’u perfformiadau.”

Ychwanegodd fod carfan y Llewod “yn un o’r goreuon sydd wedi teithio yma”, ac y bydd yr ornest yn “brawf corfforol… a meddyliol”.

Bydd tîm y Llewod yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach heno.

Tîm Seland Newydd: B Smith, I Dagg, R Crotty, S B Williams, R Ioane, B Barrett, A Smith; J Moody, C Taylor, O Franks, B Rettalick, S Whitelock, J Kaino, S Cane, K Read (capten)

Eilyddion: N Harris, W Crockett, W Faumuina, S Barrett, A Savea, TJ Perenara, A Cruden neu L Sopoaga, A Lienert-Brown