Alex Cuthbert (Llun: David Davies/PA)
Fydd asgellwr tîm rygbi Cymru, Alex Cuthbert ddim ar gael i herio Samoa ddydd Gwener oherwydd anaf i’w ysgwydd.

Roedd Cymru eisoes heb Gareth Davies, Kristian Dacey, Cory Hill a Tomas Francis ar ôl i’r pedwar gael eu galw i garfan y Llewod.

Sgoriodd Alex Cuthbert gais yn erbyn Tonga yn Auckland cyn anafu ei ysgwydd wrth geisio sgorio ail gais ddydd Gwener, ac fe fu’n rhaid iddo fe adael y cae ar yr hanner.

Dywedodd prif hyfforddwr dros dro Cymru, Robin McBryde ei bod hi’n “drueni” na fydd Alex Cuthbert ar gael.

“Mae Alex wedi bod yn ddylanwad gwych oddi ar y cae ar y chwaraewyr iau yn y garfan. Dw i’n gwybod y bydd e’n gweithio’n galed nawr i ddychwelyd i ymarfer gyda’r Gleision cyn dechrau’r tymor.”