Dydy capten y Llewod, y Cymro Sam Warburton ddim yn sicr o’i le yn y tîm ar gyfer y prawf cyntaf yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn nesaf, yn ôl y prif hyfforddwr Warren Gatland.

Mae’r blaenasgellwr yn holliach ond dydy e ddim wedi’i gynnwys yn y garfan i wynebu’r Chiefs yn Hamilton ddydd Mawrth ar ôl bod yn dioddef o anaf i’w ffêr ar ddechrau’r daith.

Y Gwyddelod Peter O’Mahony a Sean O’Brien a’r Cymro Taulupe Faletau oedd yn y rheng ôl wrth i’r Llewod guro’r Maori o 32-10 ddoe.

Ac mae eu perfformiad fel uned yn y gêm honno’n golygu y gallai Sam Warburton orfod bodloni ar le ar y fainc ar gyfer y prawf cyntaf yn Auckland.

Dywedodd Warren Gatland: “O ran Sam, roedden ni’n gobeithio y byddai e’n rhan o’r 23 yn erbyn y Crusaders. Yn anffodus, roedd e wedi troi drosodd ar ei ffêr ac felly doedd e ddim wedi gwella mewn pryd.

“Felly fe gafodd e amser yn erbyn yr Highlanders ac roedden ni wedi gallu rhoi amser iddo fe neithiwr. Felly bydd dadleuon a thrafodaethau anodd am y tîm terfynol o ran pwy fydd yn y rheng ôl ddydd Sadwrn.”

Y Cymry

Fe fydd rhaid i Leigh Halfpenny gwblhau asesiad i’r pen cyn y prawf cyntaf, ac fe fydd Liam Williams yn gwisgo crys rhif 15 yn erbyn y Chiefs.

Mae’r pedwarawd Cory Hill, Kristian Dacey, Gareth Davies a Tomas Francis wedi ymuno â’r garfan ar ôl bod yn Seland Newydd gyda Chymru.