Sam Warburton
Colli o bwynt yn unig oedd hanes y Llewod yn erbyn Otago Highlanders yn Dunedin y bore yma, gyda chanlyniad terfynol o 22 – 23.

Roedd y ddau dîm ar 10 pwynt yr un ar hanner amser.

Llwydodd Jonathan Joseph, Tommy Seymour a’r capten Sam Warburton i sgorio ceisiau i’r Llewod, a Waisake Naholo a Liam Coltman yn sgorio ceisiau i’r Highlanders.

Ac ychydig cyn diwedd y gêm, 74 munud, sgoriodd Marty Banks gic gosb gan arwain at fuddugoliaeth yr Highlanders.

Dyma’r ail golled i’r Llewod allan o bedwar gêm yn ystod y daith, wrth i’r capten Sam Warburton ddychwelyd ar ôl anaf i’w ffêr lle bu’n rhaid iddo ildio gêm yn erbyn y Crusaders ddydd Sadwrn.

Daeth cadarnhad heddiw hefyd fod Stuart Hogg o’r Alban allan am weddill y daith ar ôl anaf i’w foch.