Sam Warburton (llun: David Davies/PA)
Mae’r Llewod yn herio Otago Highlanders y bore yma yn Dunedin gyda Sam Warbuton yn ôl yn eu harwain.

Daeth cadarnhad ei fod wedi gwella o anaf i’w ffêr ar ôl ildio gêm yn erbyn y Crusaders ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth y Llewod guro’r Crusaders o 12 – 3 yn Christchurch.

Yn y cyfamser, mae’n edrych yn debyg y bydd Stuart Hogg o’r Alban allan am weddill y daith ar ôl anaf i’w foch.