Sam Warburton (Llun: David Davies/PA)
Mae Sam Warburton wedi gwella o anaf i’w ffêr mewn da bryd i arwain y Llewod yn erbyn yr Highlanders ddydd Mawrth.

Fe gollodd e’r gêm yn erbyn y Crusaders, ond mae e’n dychwelyd bythefnos cyn y prawf cyntaf yn erbyn Seland Newydd ar Fehefin 24.

Ac fe fydd maswr Cymru, Dan Biggar hefyd ar gael ar ôl cael asesiad anaf i’r pen yn dilyn y gêm yn erbyn y Crusaders.

Fe fydd y blaenasgellwr arall o Gymru, Justin Tipuric ar y fainc ar gyfer y gêm.

Mae’n debygol y bydd y cefnwr Leigh Halfpenny yn cystadlu â’r Gwyddel Jared Payne am grys rhif 15 ar gyfer y profion.