Warren Gatland (Llun: Joe Giddens/PA)
“Gobeithio wnaethon ni ddim siomi gormod o bobol” oedd neges prif hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland ar ôl i’w dîm drechu’r Crusaders o 12-3 yn Christchurch y bore ma.

Roedd e’n ymateb i feirniadaeth gan brif hyfforddwr Seland Newydd, Steve Hansen a phrif hyfforddwr Lloegr, Eddie Jones.

Roedd Steve Hansen wedi beirniadu amserlen y daith a’r cyfrifoldebau ychwanegol sydd gan y chwaraewyr oddi ar y cae yn ystod y daith, ac fe ddywedodd Eddie Jones na fyddai’r Llewod yn curo’r Crysau Duon drwy chwarae’r math o rygbi sy’n cael ei alw’n “Warrenball”.

Roedd mwy o bwysau ar Warren Gatland ar ôl i’w dîm gael eu curo o 22-16 gan Gleision Auckland ddydd Mercher.

‘Wythnos anodd iawn’

Fe gyfaddefodd Warren Gatland ar ôl y gêm heddiw ei fod e wedi cael “wythnos anodd iawn” a “llawer o feirniadaeth”.

“Mae pobol wedi wfftio’r daith eisoes ar ôl dwy gêm. Ac mae hynny wedi creu her. Mae wedi creu her i ni oll.

“Fe fu’n rhaid i ni aros yn gryf o fewn y criw, cadw ffydd a chofio mai’r nod yw’r profion, a pharhau i wella ar gyfer y rhain.

“Felly gobeithio na wnaethon ni siomi gormod o bobol heno gyda’r canlyniad.”

‘Targedu’

Dywedodd Warren Gatland wrth Talksport ei fod e’n credu ei fod e wedi cael ei dargedu gan y wasg yn Seland Newydd ar ôl lleisio’i farn yn gynnar yn y daith.

Ond ychwanegodd fod hynny’n rhan o’r byd rygbi erbyn hyn, a bod “rhaid i chi allu ymdopi â’r pwysau”.

“Weithiau, mae hynny’n dod â’r gorau allan ohonof fi fel cystadleuwr yn y byd chwaraeon,” meddai.