Mae tîm rygbi’r Llewod wedi curo’r Crusaders o Canterbury o 12-3 yn Christchurch.

Ciciodd Owen Farrell bedair cic gosb, tra bod Richie Mo’unga wedi cicio unig bwyntiau’r tîm sy’n ddi-guro mewn 14 o gemau yn y gynghrair y tymor hwn.

Manylion y gêm

Fe allai dwy gic gosb ychwanegol i’r Crusaders fod wedi arwain at ganlyniad cwbl wahanol, ond fe benderfynon nhw fynd am y gornel yn lle’r pyst, oedd yn benderfyniadau costus yn y pen draw.

Ac fe allen nhw fod wedi sgorio cais, ond fe benderfynodd y dyfarnwr fideo nad oedd digon o dystiolaeth fod y bêl wedi cael ei thirio. Wrth fynd am lein wedyn, cafodd y bêl ei tharo ymlaen ac roedd y pwysau oddi ar y Llewod.

Roedd y Llewod ar y blaen o 9-3 ar yr hanner gyda thair cic gosb gan Owen Farrell ac un i Richie Mo’unga i’r Crusaders.

Fe fydd gan y Llewod bryderon am anafiadau, fodd bynnag, wrth i’r Albanwr o gefnwr Stuart Hogg fynd oddi ar y cae ar ôl rhedeg i mewn i benelin y mewnwr Connor Murray.

Ac fe gafodd y canolwr o Gymro Jonathan Davies Asesiad Anaf i’r Pen, a dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth yw ei sefyllfa yntau.

Fe ddylai Owen Farrell fod wedi cael cic gosb arall, ond penderfynodd y dyfarnwyr cynorthwyol nad oedd y bêl wedi mynd trwy’r pyst.

Fe allai Ben Te’o a George Bridge fod wedi cael cais yr un i’w timau, ond roedd trafod gwael gan y naill a’r llall wrth geisio cwblhau’r cymalau.

Fe allai Anthony Watson fod wedi cael cais i’r Llewod, ond cafodd y bêl ei tharo ymlaen gan y Cymro Liam Williams cyn i’r blaenasgellwr o Wyddel CJ Stander ollwng y bêl i amddifadu Anthony Watson o ail gyfle am gais.

Daeth pedwaredd cic gosb i’r Llewod wrth i’r Crusaders gamsefyll, ac roedd hynny’n ddigon yn y pen draw i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Ymateb

Yn ôl y capten, clo Cymru, Alun Wyn Jones, roedd elfennau positif ym mherfformiad y Llewod, ond mae yna waith i’w wneud o hyd cyn dechrau’r gyfres yn erbyn Seland Newydd ymhen pythefnos.

Dywedodd wrth Sky Sports: “Fe dorron ni’r llinell fantais sawl gwaith ond wnaethon ni ddim gorffen y rheiny.

“Roedden ni’n gwybod fod rhaid i ni fod cystal â nhw yn y chwarae gosod ac mi oedden ni.

“Mae darnau bach i weithio arnyn nhw, ond roedd yna welliant ers y gêm ddiwethaf.”

Roedd naw o chwaraewyr y Crysau Duon yn nhîm y Crusaders, a fydd yn sicr yn rhoi hwb i dîm Warren Gatland wrth iddyn nhw geisio anghofio’r siom o golli yn erbyn Auckland ganol yr wythnos.

Fe fydd gan y Llewod gyfle arall am fuddugoliaeth ddydd Mawrth, wrth iddyn nhw herio’r Highlanders yn Dunedin, a’r gic gyntaf am 8.35yb.

Llewod: S Hogg; G North, J Davies; B Te’o, L Williams; O Farrell; C Murray; M Vunipola, J George, T Furlong; AW Jones (capten), G Kruis; P O’Mahony, S O’Brien, T Faletau

Eilyddion: K Owens, J McGrath, D Cole, M Itoje, CJ Stander, R Webb, J Sexton, A Watson

Crusaders: I Dagg, S Tamanivalu, J Goodhue, D Havili, G Bridge, R Mo’unga, B Hall, J Moody, C Taylor, O Franks, L Romano, S Whitelock (capten), H Bedwell-Curtis, M Todd, J Taufua.

Eilyddion: B Funnell, W Crockett, M Alaalatoa, Q Strange, J Brown, M Drummond, M Hunt, T Bateman.