Mae tîm rygbi’r Llewod wedi colli o 22-16 yn erbyn Gleision Auckland ar Barc Eden yn eu hail gêm ar y daith.

Roedd y tîm Prydeinig ar y blaen am gyfnodau hir yn ystod y gêm o dan gapteniaeth y bachwr o Gymru Ken Owens, ond fe arhosodd y tîm o Seland Newydd yn gryf yn ystod y munudau clo i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Mae’r Llewod bellach wedi ennill un – yn erbyn y Barbariaid Rhanbarthol – ac wedi colli un, ac mae ganddyn nhw bedair gêm ar ôl i’w chwarae cyn herio’r Crysau Duon yn y prawf cyntaf ar Fehefin 24.

Fe ddaeth cyfle cynnar i’r Llewod wrth i gic a chwrs y Gwyddel Jared Payne groesi’r ffin gwsg yn y bedwaredd munud, ond fe darodd y Gleision yn ôl bron yn syth gyda chais gan Rieko Ioane ar ôl i’r asgellwr hollti’r amddiffyn.

Daeth ail gyfle am gais i Jared Payne ar ôl 10 munud, ond roedd ei droed dros yr ystlys. Fe ddaeth y cais yn y pen draw, ond i’r wythwr CJ Stander ar ôl penderfynu rhedeg cic cosb yn lle ei chicio hi, gan ddangos y math o rygbi agored allai drechu’r Crysau Duon. Cafodd y cais ei drosi gan Leigh Halfpenny, a’r Llewod ar y blaen o 7-5.

Gwnaeth y Cymro ymestyn mantais y Llewod yn fuan wedyn gyda chic gosb ar ôl i’r Gleision ddymchwel sgrym.

Bum munud cyn yr egwyl, fe fu bron i Rieko Ioane gael ail gais, ond fe benderfynodd y dyfarnwr fideo fod camsefyll yng nghanol y cae ac fe fu’n rhaid i Dan Biggar adael y cae am asesiad i’r pen.

Roedd y Llewod yn edrych fel pe baen nhw’n mynd i fod ar y blaen ar yr hanner, ond fe groesodd y canolwr Sonny Bill Williams am gais yn yr amser a ganiateir ar gyfer anafiadau ac roedd y Gleision ar y blaen o 12-10.

Wrth i Rieko Ioane chwilio am ail gais yn gynnar yn yr ail hanner, fe benderfynodd y dyfarnwr fideo unwaith eto fod ei goes dros yr ystlys.

Aeth y Gleision ymhellach ar y blaen ar ôl 51 munud gyda chic gosb yn erbyn y clo Maro Itoje cyn i’r Cymro Liam Williams dderbyn cerdyn melyn am dacl beryglus. Methodd y Gleision â manteisio ar eu chwaraewr ychwanegol yn ystod y deg munud, ac fe darodd y Llewod yn ôl gyda chic gosb ychydig cyn i Williams ddychwelyd i’r cae.

Ar ei hôl hi o 15-13, daeth cyfle i’r Llewod fynd ar y blaen, ac fe lwyddodd Leigh Halfpenny gyda chic o 40 metr.

Ond fe gollodd y Llewod eu mantais bron yn syth wrth i Sonny Bill Williams fylchu drwy’r canol i greu cais i Ihaia West, a’r maswr yn trosi ei gais ei hun.

Gwthiodd y Llewod am gais hwyr yn y munudau clo, ond fe ildiodd y prop o Sais Joe Marler y meddiant, ac fe lwyddodd y Gleision i aros yn gadarn i sicrhau’r fuddugoliaeth o 22-15, er i’r Llewod gael un cyfle hwyr eto o lein cyn ildio’r meddiant unwaith eto, a’r bêl yn cael ei chlirio ar y chwiban.