Ken Owens
Mae’r bachwr o’r Scarlets, Ken Owens, wedi’i ddewis i arwain y Llewod ar gyfer ail gêm y daith ym Mharc Eden ddydd Mercher.

Fe fydd y Llewod yn herio Gelision Auckland ar ôl curo’r Barbariaid Taleithiol o 13 – 7 dros y penwythnos.

Esboniodd Ken Owens ei fod wedi poeni am anaf i’w bigwrn cyn dechrau’r daith, ac wrth edrych ymlaen at y gêm dywedodd – “mae’n rhaid inni greu momentwm gêm ar ôl gêm i wella i mewn i’r gemau prawf.”

“Dyna beth fydd rhaid inni wneud er mwyn curo’r crysau duon ymhen rhyw dair wythnos,” meddai wedyn.

Pum Cymro

Yn ôl Warren Gatland roedd dewis Ken Owens yn “benderfyniad hawdd” oherwydd – “mae’r ffaith fod Ken wedi bod yn gapten ar y Scarlets, a’u bod wedi ennill y PRO12, ac o ystyried ei brofiad rhyngwladol a’i arweinyddiaeth a’r gwahaniaeth mae wedi’i wneud ar y garfan yn yr wythnosau diwethaf, roedd e’n benderfyniad hawdd inni ei wneud.”

Mae pum Cymro yn y 15 sy’n dechrau ddydd Mercher sef Ken Owens, Justin Tipuric, Rhys Webb, Dan Biggar a Leigh Halfpenny – ac mae Liam Williams wedi’i enwi ar y fainc.