Sam Warburton (llun: David Davies/PA)
Mae capten y Llewod, Sam Warburton, wedi cadarnhau ei fod yn holliach i barhau â’u taith yn Seland Newydd yr haf hwn.

Anafodd y Cymro ei ben-glin fis diwethaf ac nid oedd wedi chwarae ers hynny, ond mae wedi cadarnhau y bydd yn barod ar gyfer gêm gyntaf y daith yr wythnos nesaf yn erbyn Provincial Barbarians XV.

Mae carfan y Llewod wrthi’n ymarfer yn Kildare yn Iwerddon ar hyn o bryd a dywedodd Sam Warburton ei fod yn “hollol iawn” ac yn barod i “fwrw ymlaen” â’r daith.

Yn y cyfamser, mae pryder am anafiadau i Ken Owens a Rhys Webb o Gymru ynghyd â Sean O’Brien a Jack McGrath o Iwerddon, ond mae Warren Gatland yn hyderus y byddan nhw’n iach ar gyfer y daith.

Mae’r Llewod eisoes wedi colli’r chwaraewr o Loegr, Billy Vunipola, oherwydd anaf i’w ysgwydd.