Leinster 15–27 Scarlets

Mae’r Scarlets yn rownd derfynol y Guinness Pro12 ar ôl trechu Leinster gyda phedwar dyn ar ddeg ar yr RDS nos Wener.

Chwaraeodd Bois y Sosban dros hanner y rownd gynderfynol gydag un dyn yn llai wedi cerdyn coch Steff Evans yn hwyr yn yr hanner cyntaf ond wnaeth hynny ddim eu hatal rhag dal eu gafael ar eu mantais a sicrhau’r fuddugoliaeth.

Hanner Cyntaf

Cafodd y Scarlets y dechrau perffaith wrth i Steff Evans gwblhau symudiad tîm da i groesi am gais o fewn y deg munud cyntaf.

Ymatebodd Leinster gyda chic gosb o droed Isa Nacewa cyn mynd ar y blaen pan groesodd Garry Ringrose wedi symudiad taclus yn syth oddi ar y cae ymarfer, 10-7 y sgôr wedi trosiad Nacewa.

Yn ôl y daeth Bois y Sosban serch hynny, bron yn syth o’r ail ddechrau wrth i Aaron Shingler groesi o dan y pyst wedi cyd chwarae da rhyngddo ef a Gareth Davies.

Davies ei hun a groesodd am drydydd cais yr ymwelwyr ddeg munud cyn yr egwyl, y mewnwr yn sgorio wedi bylchiad gwreiddiol Scott Williams.

Rhoddodd trosiad Rhys Patchell y Scarlets un pwynt ar ddeg ar y blaen ond rhoddwyd cnoc i’w gobeithion ddau funud cyn troi wrth i Evans dderbyn cerdyn coch am dacl beryglus ar Ringrose.

Ail Hanner

Roedd angen ymdrech amddiffynnol ddewr gan y Cymry yn yr ail hanner felly a dyna’n union a gafwyd wrth iddynt fynd am ugain munud a mwy heb ildio.

Daeth cais i’r Gwyddelod wedi hynny gyda Jack Conan yn sgorio, ond er i’r wythwr groesi ger y pyst fe fethodd Nacewa’r trosiad syml!

Roedd Leinster yn ôl o fewn sgôr er gwaethaf methiant Nacewa ac roedd y Scarlets yn wynebu chwarter awr anodd.

Cododd ychydig o’r pwysau pan giciodd Liam Williams dri phwynt yn dilyn sgrym gref gan yr ymwelwyr ddeg munud o’r diwedd. Ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel cyn iddo gicio cic gosb arall ym munud olaf y gêm.

Mae’r fuddugoliaeth wych yn rhoi’r rhanbarth o orllewin Cymru yn rownd derfynol y gystadleuaeth am y tro cyntaf. Taith arall i Ddulyn fydd yn eu haros yn y ffeinal yr wythnos nesaf ble byddant yn wynebu enillwyr y gêm rhwng Munster a’r Gweilch ddydd Sadwrn.

.

Leinster

Ceisiau: Garry Ringrose 24’, Jack Conan 64’

Trosiad: Isa Nacewa 25’

Cic Gosb: Isa Nacewa 20’

.

Scarlets

Ceisiau: Steff Evans 9’, Aaron Shingler 26’, Gareth Davies 30’

Trosiadau: Rhys Patchell 10’, 26’, 31’

Ciciau Cosb: Liam Williams 70’, 80’

Cerdyn Coch: Steff Evans 38’