Stade Francais 46–21 Gleision
Ni fydd y Gleision yn chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf ar ôl colli yn erbyn Stade Francais yn y Stade Jean Bouin nos Wener.
Bydd yn rhaid iddynt fodloni ar y Cwpan Her am dymor arall yn dilyn crasfa ail hanner gan y Ffrancwyr yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle.
Roedd yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen ar hanner amser diolch i gais yr un gan Macauley Cook a Nick Williams. Croesodd Cook o dan y pyst wedi pas ddeheuig Gareth Asncombe cyn i Williams hyrddio’i hun drosodd ddau funud yn ddiweddarach.
Ymatebodd Stade gyda chais i Waisea Vuidarvuwalu ond roedd gan y Gleision bedwar pwynt o fantais wrth droi, 10-14 y sgôr.
Stori wahanol iawn a oedd hi yn yr ail hanner wrth i’r Ffrancwyr lwyr reoli ac roedd cais yr eilydd o brop, Giorgi Melikidze, wedi eu rhoi ar y blaen o fewn dau funud.
Roedd cais yr un i ddilyn gan Mathieu De Giovanni a Sekou Macalou cyn yr awr ac roedd y gêm yn prysur fynd o afael y Gleision erbyn i Cook sgorio ei ail gais ef a thrydydd ei dîm. Roedd hwnnw’n gais bach da hefyd, cic berffaith Anscombe a dwylo taclus Tomos Williams yn rhoi’r clo drosodd, dim ond wyth pwynt ynddi gyda chwarter awr i fynd.
Dyna’r agosaf a ddaeth y Cymry yn chwarter olaf y gêm serch hynny wrth i Macalou groesi am ei ail ef cyn i Laurent Panis a Clement Daguin gwblhau’r grasfa, 46-21 y sgôr terfynol.
Fydd dim lle i’r Gleision ym mhrif gystadleaeth Ewrop y tymor nesaf felly, bydd y fraint honno’n mynd i enillwyr y gêmrhwng Stade Francais a Northampton neu Connacht.
.
Stade Francais
Ceisiau: Waisea Vuidarvuwalu 32’, Giorgi Melikidze 43’, Mathieu De Giovanni 51’, Sekou Macalou 60’, 67’, Laurent Panis 70’, Clement Daguin 76’
Trosiadau: Morne Steyn 32’, 43’, 51’, 67’
Cic Gosb: Morne Steyn 10’
.
Gleision
Ceisiau: Macauley Cook 21’, 63’, Nick Williams 24’
Trosiadau: Gareth Anscombe 21’, 24’, 63’