Mae Principality wedi ymestyn eu cytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru i noddi Uwch Gynghrair Cymru yn 2017-18.

Mae’r cytundeb newydd hefyd yn cynnwys cynghreiriau ieuenctid Cymru ar gyfer y tymor i ddod.

Bydd Aberafan yn herio Merthyr yn rownd derfynol Uwch Gynghrair Principality nos Sul, a’r gêm Ail Haen rhwng Castell-nedd a Chasnewydd nos Sadwrn. Bydd yr enillwyr yn amddiffyn eu teitl Uwch Gynghrair Principality am flwyddyn arall.

Mae’r Principality wedi bod yn noddi’r gynghrair ers 2005 a bydd y bartneriaeth yn dod i ben ar ddiwedd y tymor hwn.

Bydd rownd derfynol gemau ail-gyfle’r cynghreiriau ieuenctid hefyd yn cael eu cynnal y penwythnos hwn, gyda thîm Athletaidd Pen-y-bont yn herio Ieuenctid Rhymni nos Wener.

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Principality eu bod nhw “wrth eu bodd” fod y bartneriaeth yn parhau, a bod aelodau’r cwmni’n awyddus i’w gweld nhw’n “buddsoddi mewn rygbi ar lawr gwlad”.

Ychwanegodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips fod “ymrwymiad Principality i rygbi yng Nghymru’n chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu ni i ddiogelu dyfodol ein gêm genedlaethol ac mae eu diddordeb uniongyrchol nhw ar lawr gwlad ac yn y gymuned yn arbennig o arwyddocaol.”

Ychwanegodd fod y cytundeb yn “cynnig sefydlogrwydd am dymor arall”.