Mae rhanbarth rygbi’r Dreigiau wedi cadarnhau bod pump o chwaraewyr, gan gynnwys y chwaraewyr rhyngwladol Tom Prydie a Craig Mitchell, yn gadael.

Y tri arall sy’n gadael yw Nick Crosswell, Darran Harris a Geraint Rhys Jones.

Symudodd Nick Crosswell i Gymru o Seland Newydd yn 2015, ac mae e wedi chwarae yn y rheng ôl 56 o weithiau.

Ymunodd y bachwr Darran Harris â’r Dreigiau ddechrau’r tymor hwn o Rotherham ar ôl cyfnod gyda Phontypridd, ac mae e wedi cynrychioli timau dan 16, dan 18 a dan 20 Cymru.

Symudodd y cefnwr Geraint Rhys Jones i Went o’r Scarlets yn 2013 ac mae yntau hefyd wedi cynrychioli timau Cymru dan 18, dan 19, dan 20 a thîm saith bob ochr Cymru, gan ymddangos yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2010.

Enwau mawr yn gadael

Ymunodd y prop Craig Mitchell â’r rhanbarth o’r Gleision yn 2016, ac mae e wedi ennill 15 o gapiau dros Gymru. Chwaraeodd e 11 o weithiau i’r Dreigiau y tymor hwn.

Symudodd Tom Prydie i’r Dreigiau o’r Gweilch yn 2012, a fe oedd y chwaraewr ieuengaf erioed i gynrychioli Cymru, ac yntau newydd droi’n 18 oed yn 2010.

Mae e wedi chwarae fel cefnwr neu ar yr asgell mewn 93 o gemau i’r rhanbarth, gan sgorio 16 o geisiau a 447 o bwyntiau i gyd.

Diolchodd prif hyfforddwr y Dreigiau, Kingsley Jones i’r pum ohonyn nhw.