Mae’r prop o Dde Affrica, Brian Mujati wedi ymestyn ei gytundeb gyda’r Gweilch.

Daeth i Gymru ar gytundeb tymor byr ym mis Chwefror yn dilyn anafiadau i Dmitri Arhip a Ma’afu Fia ac mae ei wedi dod yn aelod pwysig o’r tîm yn y cyfnod hwnnw.

Dywedodd ei fod e wrth ei fod o gael aros gyda’r rhanbarth.

“Mae fy nheulu yma gyda fi ac mae pawb wedi rhoi croeso cynnes i ni. Mae’n awyrgylch da i fod ynddo.”

Dywedodd prif hyfforddwr y Gweilch, Steve Tandy fod gan Brian Mujati “lwyth o brofiad” a’i fod e’n “ychwanegiad da” i’r garfan.

Mae Brian Mujati wedi cynrychioli De Affrica 12 o weithiau.

Mae’n ychwanegu ei enw at restr o chwaraewyr sydd wedi arwyddo cytundebau newydd sy’n cynnwys Sam Davies, Justin Tipuric, Dan Baker, Hanno Dirksen, Dan Lydiate a Joe Thomas.

Fe fydd Cory Allen a James Hook yn symud i’r rhanbarth y tymor nesaf.