Dreigiau 24–26 Gleision

Paratôdd y Gleision ar gyfer eu gêm ail gyfle Ewropeaidd gyda buddugoliaeth dros y Dreigiau yng ngêm olaf tymor y Guinness Pro12 nos Sadwrn.

Chwaraewyd y gêm ar Barc Virginia, Caerffili, ac fe setlodd y Dreigiau yn eu cartref dros dro yn dda mewn hanner awr cyntaf addawol. Ond yn ôl y daeth y Gleision yn y diwedd gyda chais Willis Halaholo yn un eiliad brin o gyffro mewn gêm ddigon gwael.

Cafodd y Dreigiau’r dechrau perffaith wrth i gic letraws Angus O’Brien arwain at gais yn y gornel i Carl Meyer wedi ychydig dros funud o chwarae.

Ychwanegodd O’Brien gic gosb yn fuan wedyn i ymestyn mantais ei dîm i wyth pwynt.

Ymatebodd y Gleision gyda chais i Matthew Morgan o gic Alex Cuthbert ond llwyddodd O’Brien gyda chic arall hanner ffordd trwy’r hanner i roi pedwar pwynt rhwng y ddau dîm.

Y Gleision a oedd ar y blaen ar yr egwyl serch hynny diolch i gais unigol gwych Halaholo, y canolwr yn ochrgamu ei ffordd trwy ganol amddiffyn y Dreigiau am gais da.

Ymestynnodd Gareth Anscombe fantais y Gleision gyda dwy gic gosb gyntaf yr ail hanner cyn i Meyer ateb gyda dwy gic enfawr i’r Dreigiau.

Tri phwynt a oedd ynddi gyda chwarter awr i fynd felly ond rhoddodd chwe phwynt arall gan Anscombe fantais gyfforddus i’r Gleision cyn i gais hwyr Sam Beard a throsiad O’Brien sicrhau pwynt bonws i’r Dreigiau.

Mae’r canlyniad hwn ynghyd â buddugoliaeth Treviso yn Zebre yn golygu fod y Dreigiau yn gorffen tymor hynod siomedig o dan yr Eidalwyr yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl y Pro12.

Mae’r Gleision ar y llaw a rall yn gorffen yn seithfed ac yn edrych ymlaen at gêm ail gyfle yn erbyn Northampton neu Gaerloyw am le yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf.

.

Dreigiau

Ceisiau: Carl Meyer 2’, Sam Beard 80’

Trosiad: Angus O’Brien 80’

Ciciau Cosb: Angus O’Brien 8’, Carl Meyer 67’, 73’

Cerdyn Melyn: T. R. Thomas 58’

.

Gleision

Ceisiau: Matthew Morgan 17’, Willis Halaholo 30’

Trosiadau: Gareth Anscombe 18’, 31’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 52’, 65’, 76’, 79’