Scarlets 40–17 Gweilch

Gorffennodd y Scarlets dymor arferol y Guinness Pro12 mewn steil gyda buddugoliaeth gyfforddus mewn gêm ddarbi yn erbyn y Gweilch nos Sadwrn.

Roedd y tîm cartref yn sicr o’u lle yn rownd gynderfynol y gystadleuaeth cyn y gic gyntaf ar Barc y Scarlets, ac er nad oedd y Gweilch yn hollol ddiogel, wnaeth y golled ddim eu hatal hwy rhag ymuno â Bois y Sosban yn y pedwar olaf.

Hanner Cyntaf

Daeth Ken Owens yn agos at gais cynnar ond rhoddodd y bachwr ei droed dros yr ystlys wrth geisio plymio drosodd fel asgellwr yn y gornel. Yn hytrach, cic gosb yr un gan Dan Biggar a Rhys Patchell a oedd unig bwyntiau’r deg munud cyntaf.

Daeth y cais cyntaf yn fuan wedi hynny wrth i Keelan Giles droelli allan o dacl Owens ac ymestyn at y gwyngalch am sgôr i’r Gweilch.

Ciciodd Patchell ddwy gic gosb wedi hynny i roi’r Scarlets o fewn pwynt i’r ymwelwyr a bu rhaid i’r Gweilch orffen yr hanner gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn i Rhys Webb.

Manteisiodd Bois y Sosban yn llawn ar y gwagle a grëwyd wrth i Will Boyde dirio yn y gornel dde cyn i Seff Evans groesi yn dilyn bylchiad gwych gan Gareth Davies o fôn sgrym yn ei hanner ei hun. Troswyd y ddau gais gan Patchell, 23-10 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Bu rhaid aros tan hanner ffordd trwy’r ail hanner am y pwyntiau nesaf pan sgoriodd Aaron Shingler o dan y pyst i’r Scarlets yn dilyn gwrthymosodiad da gan Liam Williams, Jonathan Davies a Scott Williams.

Rhoddodd y Gweilch y ffidl yn y to wedi hynny a’r Scarlets oedd yr unig dîm yn y gêm yn y chwarter olaf.

Gwibiodd Johnny McNicholl i lawr yr asgell chwith ar gyfer pedwerydd cais y tîm cartref cyn i Jonathan Davies gyfuno’n effeithiol gyda Scott Williams i greu’r pumed.

Golygodd hynny mai cais cysur yn unig a oedd ymdrech hwyr Dan Baker, 40-17 y sgôr terfynol.

Mae’r Scarlets yn gorffen y tymor arferol yn drydydd yn nhabl y Pro12 ac yn teithio i wynebu Leinster yn y rownd gynderfynol. Taith i Munster sydd yn aros y Gweilch wedi iddynt orffen yn bedwerydd er gwaethaf y golled drom yn y darbi gan i Ulster fethu sicrhau pwynt bonws yn erbyn Leinster.

.

Scarlets

Ceisiau: Will Boyde 35’, Steff Evans 38’, Aaron Shingler 60’, Johnny McNicholl 72’, Jonathan Davies 75’

Trosiadau: Rhys Patchell 36’, 40’, 61’

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 7’, 18’, 24’

.

Gweilch

Ceisiau: Keelan Giles 12’, Dan Baker 79’

Trosiadau: Dan Biggar 13’, Dan Evans 80’

Cic Gosb: Dan Biggar 2’

Cerdyn Melyn: Rhys Webb 28’