Connacht 8–30 Scarlets

Sicrhaodd y Scarlets eu lle yn rownd gynderfynol y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn Connacht ar Faes Chwarae Galway nos Sadwrn.

Roedd angen dau bwynt ar Fois y Sosban i ddiogelu eu lle yn y pedwar uchaf ac fe gawsant bump wrth groesi am bedwar cais yn yr hanner awr cyntaf cyn mynd ymlaen i ennill y gêm yn gyfforddus.

Cafodd y Scarlets y dechrau perffaith wrth i’r cefnwr, Johnny McNicholl, groesi am gais cyntaf y gêm wedi dim ond pum munud yn dilyn rhediad da ar y chwith.

Ymatebodd Connacht gyda chic gosb o droed Marnitz Boshoff ond yr ymwelwyr o Gymru a oedd yn edrych yn fwyaf bygythiol â’r bêl yn eu dwylo.

Cafwyd prawf o hynny wrth i Steff Evans orffen yn dda i groesi am ail gais y Cymry’n fuan wedyn yn dilyn pas hir Rhys Patchell.

Cyfunodd sgorwyr y ddau gais cyntaf wrth i Fois y Sosban groesi am drydydd chwarter awr cyn yr egwyl, McNicholl yn dadlwytho i Evans sgorio yn dilyn dymudiad tîm da a ddechreuodd yn ddwfn yn hanner y Scarlets.

Roedd y pwynt bonws yn ddiogel bum munud yn ddiweddarach diolch i gais tîm da arall. Wrth i’r gwynt a’r glaw gynyddu fe lwyddodd y Scarlets i ailgylchu’r bêl yn effeithiol am sawl cymal cyn i Liam Williams groesi.

Felly yr arhosodd pethau tan hanner amser, 3-22 y sgôr wrth droi.

Bu rhaid i’r ymwelwyr amddiffyn am gyfnodau helaeth ar ddechrau’r ail hanner a doedd fawr o syndod gweld Craig Ronaldson yn croesi am gais cyntaf y Gwyddelod toc cyn yr awr.

Rhoddodd hynny’r tîm cartref o fewn dwy sgôr am gyfnod cyn i Patchell gicio tri phwynt i adfer bwlch cyfforddus.

Rhoddwyd yr eisin ar gacen y Scarlets ddau funud o ddiwedd yr wyth deg pan gyfunodd dau o’r eilyddion i greu pumed cais, Gareth Davies yn bylchu a DTH van der Merwe’n croesi, 8-30 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Scarlets yn drydydd yn nhabl y Pro12 ac yn sicrhau eu lle yn y pedwar uchaf ar ddiwedd y tymor arferol.

.

Connacht

Cais: Craig Ronaldson 58’

Cic Gosb: Marnitz Boshoff 11’

.

Scarlets

Ceisiau: Johnny McNicholl 5’, Steff Evans 14’, 26’, Liam Williams 31’, DTH van der Merwe 78’

Trosiad: Rhys Patchell 5’

Cic Gosb: Rhys Patchell 66’