Mae pencampwyr rygbi presennol Lloegr wedi arwyddo Cymro sydd wedi chwarae ei rygbi dros y ddau dymor diwethaf yn Awstralia.
Roedd Dominic Day yng ngharfan Cwpan y Byd Cymru yn 2015 ac mae ganddo dri chap dros ei wlad.
Bu’r blaenwr 31 oed yn chwarae i dîm Melbourne Rebels yn Awstralia dros y ddau dymor diwethaf.
Ond y tymor nesaf bydd yn chwarae gyda’r Cymro Liam Williams yng nghlwb y Saraseniaid.
“Rydym yn credu y bydd Dom yn ychwanegiad teilwng i’r garfan ac yr ydym wrth ein boddau ei fod wedi dewis ymuno â’r clwb,” meddai Mark McCall, Cyfarwyddwr Rygbi’r Saraseniaid.