Mae dwsin o Gymry yng ngharfan y Llewod ar gyfer y daith i Seland Newydd, a’r blaenasgellwr Sam Warburton fydd y capten.

Mae chwech o Gymry ymhlith yr olwyr – y maswr Dan Biggar, y canolwr Jonathan Davies, y cefnwr Leigh Halfpenny, y mewnwr Rhys Webb a’r asgellwr Liam Williams.

Mae chwech o flaenwyr o Gymru yn y garfan hefyd – y blaenasgellwr Taulupe Faletau, y clo Alun Wyn Jones, yr wythwr Ross Moriarty, y bachwr Ken Owens, a’r blaenasgellwyr Justin Tipuric a Sam Warburton.

Mae 16 o Saeson, 11 o Wyddelod a dau Albanwr hefyd yn y garfan o 41 o chwaraewyr.

Ond does dim lle i’r canolwr Jamie Roberts.

Cafodd y garfan ei chyhoeddi gan reolwr y Llewod, John Spencer mewn cynhadledd i’r wasg yng ngwesty’r Syon Park yng ngorllewin Llundain, dafliad carreg o stadiwm Twickenham.

Yn ymuno â fe a’r prif hyfforddwr Warren Gatland roedd gweddill y tîm hyfforddi – Steve Borthwick, Andy Farrell, Rob Howley, Neil Jenkins a Graham Rowntree.

Y daith

Bydd y Llewod yn chwarae deg gêm yn ystod y daith, ac yn gadael gwledydd Prydain ar 29 Mai. Bydd y gêm gyntaf yn Whangarei yn erbyn Barbariaid Seland Newydd ar Fehefin 3.

Byddan nhw’n chwarae chwe gêm baratoadol cyn y prawf cyntaf ar Barc Eden, Auckland ar Fehefin 24. Eu gwrthwynebwyr eraill fydd y Blues (Mehefin 7), y Crusaders (Mehefin 20), yr Highlanders (Mehefin 13), y Maori (Mehefin 17), a’r Chiefs (Mehefin 20).

Bydd y profion yn cael eu cynnal ar Fehefin 24, Gorffennaf 1 (Wellington) a Gorffennaf 8 (Parc Eden, Auckland).

Byddan nhw’n herio’r Hurricanes ar 27 Mehefin rhwng y prawf cyntaf a’r ail brawf.

Y garfan lawn

Olwyr: DAN BIGGAR (CYMRU), Elliot Daly (Lloegr), JONATHAN DAVIES (CYMRU), Owen Farrell (Lloegr), LEIGH HALFPENNY (CYMRU), Robbie Henshaw (Iwerddon), Stuart Hogg (Yr Alban), Jonathan Joseph (Lloegr), Conor Murray (Iwerddon), GEORGE NORTH (CYMRU), Jack Nowell (Lloegr), Jared Payne (Iwerddon), Jonathan Sexton (Iwerddon), Tommy Seymour (Yr Alban), Ben Te’o (Lloegr), Anthony Watson (Lloegr), RHYS WEBB (CYMRU), LIAM WILLIAMS (CYMRU), Ben Youngs (Lloegr).

Blaenwyr: Rory Best (Iwerddon), Dan Cole (Lloegr), TAULUPE FALETAU (CYMRU), Tadhg Furlong (Iwerddon), Jamie George (Lloegr), Iain Henderson (Iwerddon), Maro Itoje (Lloegr), ALUN WYN JONES (CYMRU), George Kruis (Lloegr), Courtney Lawes (Lloegr), Joe Marler (Lloegr), Jack McGrath (Iwerddon), ROSS MORIARTY (CYMRU), Sean O’Brien (Iwerddon), Peter O’Mahony (Iwerddon), KEN OWENS (CYMRU), Kyle Sinckler (Lloegr), CJ Stander (Iwerddon), JUSTIN TIPURIC (CYMRU), Mako Vunipola (Lloegr), Billy Vunipola (Lloegr), SAM WARBURTON (CYMRU, CAPTEN).