Sam Warburton (Llun: David Davies/PA)
Y Cymro, Sam Warburton, fydd capten tim rygbi’r Llewod ar gyfer eu taith i Seland Newydd.

Cafodd llun o flaenasgellwr Cymru yn ei wisg ochr yn ochr â thîm hyfforddi’r Llewod ei ryddhau i’r wasg yn gynt na’r disgwyl.

Sam Warburton yw’r ail chwaraewr erioed i fod yn gapten ar gyfer dwy daith, ar ôl arwain y garfan yn Awstralia bedair blynedd yn ôl – y Sais Martin Johnson yw’r llall.

Bydd y garfan lawn yn cael ei chyhoeddi gan y prif hyfforddwr Warren Gatland am 12 o’r gloch.