Y dathlu ddoe (o wefan RGC 1404)
Mae rhai o chwaraewyr Rygbi Gogledd Cymru wedi bod yn siarad am eu buddugoliaeth hanesyddol yn cipio Cwpan Cymru.

Dyma’r tro cynta’ i dîm o’r Gogledd ennill prif gystadleuaeth clybiau’r wlad, trwy guro Pontypridd o 15-11 yn Stadiwm Principality.

Roedd asgellwr Cymru, y gogleddwr George North, ymhlith y rhai a anfonodd neges Trydar i longyfarch y clwb.

‘Anodd crynhoi mewn geiriau’

“Mae’n anodd crynhoi’r fuddugoliaeth mewn geiriau,” meddai ail-reng RGC, Andrew Williams, wrth wefan y clwb.

Roedd y canolwr, Tom Hughes, yn canmol y cefnogwyr gan ddweud bod “y sŵn yn anhygoel” wrth redeg ar y cae.

Er fod RGC 1404 yn cael clod am eu gallu i ymosod, yr amddiffyn sy’n cael ei ganmol y tro yma am ennill y gêm a gwrthsefyll Pontypridd ar ôl mynd ar y blaen o 10-0 yn yr hanner cynta’.

Cais dadleuol a gipiodd y fuddugoliaeth yn y pen draw – Tiaan Loots a Ross Davies oedd sgorwyr ceisiadau’r Gogleddwyr.

“Fe wnaethon ni gadw ein pennau yn yr ail hanner a chadw at ein cynllun,” meddai’r asgellwr, Rhys Williams. “Doedden ni ddim am ildio modfedd yn y deng munud ola’.”

  • Dim ond yn 2008 y cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru eu bod yn ffurfio clwb yn y Gogledd i chwarae yn yr Uwch Gynghrair – maen nhw’n bedwerydd yn y tabl ar hyn o bryd.