Stadiwm Principality (Llun: Andrew King/CCA2.0)
Mae teithwyr wedi cael rhybudd i baratoi ymlaen llaw os ydyn nhw’n mynd i Gaerdydd heddiw.

Mae disgwyl cryn oedi ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus wrth i ranbarthau rygbi Cymru herio’i gilydd ar ‘Ddydd y Farn’n yn Stadiwm Principality.

Bydd dwy gêm yn y stadiwm yn ystod y prynhawn, sef y Gleision yn erbyn y Gweilch am 2.45pm, a’r Dreigiau yn erbyn y Scarlets am 5.15pm.

Cau’r ffyrdd

Bydd yr holl ffyrdd yng nghanol y brifddinas ynghau o 12.45pm tan 8.15pm heno.

Mae rhybudd i deithwyr sy’n mynd i Gaerdydd ar y trên y dylen nhw gyrraedd tair awr cyn y gêm, yn dilyn pryderon y llynedd nad oedd digon o seddi ar gael, er i Arriva ddarparu 2,000 ychwanegol.

Mae rhybudd i bawb sy’n gadael y stadiwm ar ddiwedd yr ail gêm i fynd i Orsaf Caerdydd Canolog.

Fe fydd gwasanaeth bws wennol i yrwyr ceir yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a pharcio ychwanegol ar gael yng Ngerddi Sophia a’r Ganolfan Ddinesig.