Scarlets 51–5 Treviso

Cododd y Scarlets i bedwar uchaf y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth swmpus dros Treviso ar Barc y Scarlets nos Sadwrn.

Croesodd Bois y Sosban am wyth cais i gyd wrth chwalu’r Eidalwyr a rhoi eu hunain yn safleoedd y gemau cynderfynol gyda thair gêm yn weddill.

Rhuthrodd y tîm cartref ar y blaen gyda chais yr un gan DTH van der Merwe a Steffan Evans yn y deg munud agoriadol.

Ychwanegodd van der Merwe ei ail ef yn fuan wedyn cyn i Ken Owens sicrhau’r pwynt bonws gyda phedwerydd ei dîm wedi dim ond 23 munud!

Croesodd Evans am ei ail yntau cyn yr egwyl, 30-0 y sgôr wrth droi.

Daeth chweched i’r tîm cartref wrth i Tom Price sgorio wedi munud o’r ail hanner cyn i Omel Gega groesi am bwyntiau cyntaf yr ymwelwyr yn fuan wedyn.

Treuliodd Treviso gyfnod byr gyda dim ond deuddeg chwaraewr ar y cae wedi hynny wrth i dri gael eu hanfon i’r gell gosb o fewn ychydig funudau o’i gilydd!

Roedd pwyntiau i’r Scarlets yn anorfod felly a doedd fawr o syndod eu gweld yn croesi am ddau gais cyflym. Cwblhaodd van der Merwe ei hatric cyn i Aled Thomas ychwanegu’r wythfed.

Dros hanner cant o bwyntiau i Fois y Sosban yn y diwedd felly ac mae’r canlyniad yn eu codi dros Ulster i’r pedwerydd safle yn y tabl gyda thair gêm ar ôl.

.

Scarlets

Ceisiau: DTH van der Merwe 5, 15’, 66’, Steffan Evans 8’, 34’, Ken Owens 24’, Tom Price 42’, Aled Thomas 68’

Trosiadau: Dan Jones 16’, 43’, Aled Thomas 67’, 69’

Cic Gosb: Dan Jones 2’

Cerdyn Melyn: James Davies 77’

.

Treviso

Cais: Omel Gega 48’

Cardiau Melyn: Federico Zani 59’, Francesco Minto 62’, Edoardo Gori 66’