Zebre 29–14 Dreigiau

Parhau mae tymor siomedig y Dreigiau yn y Guinness Pro2 wedi iddynt golli yn erbyn Zebre oddi cartref yn y Stadio Sergio Lanfranchi ddydd Sadwrn.

Croesodd yr Eidalwyr am bedwar cais wrth sicrhau buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn yr ymwelwyr o Gymru.

Ciciodd Carlo Canna’r tîm cartref ar y blaen yn gynnar cyn i Cory Hill sgorio cais cyntaf y gêm i’r Dreigiau.

Ymatebodd Zebre’n dda gyda dau gais eu hunain cyn yr egwyl, y naill i Federico Ruzza a’r llall i Derrick Minnie.

Llwyddodd Canna i drosi’r ail i roi wyth pwynt o fantais i’w dîm wrth droi, 15-8 y sgôr ar yr egwyl.

Cafwyd ymateb da gan y Dreigiau ar ddechrau’r ail hanner gyda chais Adam Hughes a throsiad Angus O’Brien yn eu rhoi yn ôl o fewn pwynt.

Ond Zebre a gafodd y gorau o bethau wedi hynny. Adferodd cais Edoardo Padovani y bwlch cyn i gais Johan Meyer sicrhau’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws i’r tîm cartref.

Mae’r Dreigiau’n aros yn ddegfed yn nhabl y Pro12 er gwaethaf y canlyniad ond dau bwynt yn unig sydd bellach yn eu gwahanu hwy a’r Eidalwyr yn yr unfed safle ar ddeg.

.

Zebre

Ceisiau: Federico Ruzza 13’, Derrick Minnie 29’, Edoardo Padovani 49’, Johan Meyer 51’

Trosiadau: Carlo Canna 29’, 50’, 53’

Cic Gosb: Carlo Canna 4’

Cerdyn Melyn: Serafin Bordoli 68’

.

Dreigiau

Ceisiau: Cory Hill 6’, Adam Hughes 44’

Trosiadau: Angus O’Brien 7’, 45’