Ulster 24–24 Gleision

Dychwelodd y Gleision o Stadiwm Kingspan gyda gêm gyfartal wedi perfformiad da yn erbyn Ulster yn y Guinness Pro12 nos Wener.

Treuliodd y Cymry rannau helaeth o’r gêm ar y blaen diolch i geisiau Sam Warburton a Rey Lee-Lo (2) ond tarodd y tîm cartref nôl i rannu’r pwyntiau yn y diwedd.

Hanner Cyntaf

Er i gic gosb gynnar Gareth Anscombe roi’r Gleision ar y blaen, Ulster a gafodd gais cyntaf y gêm wrth i gic wych Ruan Pienaar arwain at sgôr i Paddy Jackson.

Wnaeth y Gwyddelod ddim aros ar y blaen yn hir cyn i Warburton hyrddio’i hun drosodd trwy bentwr o gyrff wedi i fylchiad Willis Halaholo roi’r Gleision ar y droed flaen.

Newidiodd yr oruchafiaeth eto cyn yr egwyl wrth i sgarmes symudol addawol gan Ulster gael ei dymchwel gan y Cymry gan arwain at gais cosb.

Ychwanegodd Jackson y trosiad syml ond pedwar pwynt yn unig a oedd yn gwahanu’r ddau dîm ar yr hanner, 14-10 y sgôr.

Ail Hanner

Aeth y Gleision nôl ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner pan groesodd Lee-Lo o dan y pyst wedi pas daclus Anscombe.

Rhoddodd trosiad Anscombe yr ymwelwyr dri phwynt ar y blaen ond roedd y tîm cartref yn gyfartal ar yr awr diolch i gic gosb gan Jackson.

Mewn io-io o gêm roedd y Gleision nôl ar y blaen o fewn dim, ail gais i Lee-Lo, ymdrech unigol wych y tro hwn.

Ond roedd hi’n gyfartal drachefn ddeg munud o ddiwedd yr wyth deg wedi i Luke Marshall ddawnsio’i ffordd trwy ganol amddiffyn y Gleision yn rhy rhwydd.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd i’w hennill hi yn y munudau olaf ond roedd gêm gyfartal yn ganlyniad teg yn y diwedd.

Nid yw’n ganlyniad sydd yn newid llawer yn nhabl y Pro12 wrth i Ulster aros yn bedwerydd a’r Gleision yn wythfed.

.

Ulster

Ceisiau: Paddy Jackson 11’, Cais Cosb 28’, Luke Marshall 69’

Trosiadau: Paddy Jackson 12’, 29’, 70’

Cic Gosb: Paddy Jackson 58’

.

Gleision

Ceisiau: Sam Warburton 23’, Rey Lee-Lo 47’, 61’

Trosiadau: Gareth Anscombe 24’, 48’, 62’

Cic Gosb: Gareth Anscombe 9’