Leinster 22–21 Gleision

Colli mewn gêm agos fu hanes y Gleision wrth iddynt ymweld â’r RDS i wynebu Leinster yn y Guinness Pro12 brynhawn Sadwrn.

Leinster a gafodd y gorau o’r tir a’r meddiant ond gwrthymosododd y Gleision yn effeithiol ac fe gawsant gyfleoedd i’w hennill yn y diwedd ond bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt bonws yn unig.

Y Gwyddelod a gafodd y cais cyntaf wedi dim ond pedwar munud wrth i Dan Leavy wneud yn dda i gasglu cic Joey Carbery a thirio yn y gornel.

Roedd y Gleision yn gyfartal wedi deuddeg munud wedi i Tomos Williams gwblhau gwrthymosodiad da gan Blaine Scully a Ray Lee-Lo.

Roedd y tîm cartref yn ôl ar y blaen erbyn hanner amser serch hynny wedi i Luke McGrath ganfod bwlch i dwrio drosodd wrth fôn ryc ar linell gais y Gleision.

Roedd hi’n gyfartal eto yn gynnar yn yr ail hanner diolch i ail gais y Gleision ac ail gais Williams. Cais tebyg iawn i’r cyntaf a oedd hwn, y mewnwr yn manteisio ar waith da Kristian Dacey’r tro hwn.

Ciciodd Ross Byrne y Gwyddelod yn ôl ar y blaen wedi hynny, ychydig funudau cyn i’r Gleision daro nôl gyda chais Sion Bennett.

Newidiodd yr oruchafiaeth eto gyda chais Ross Molony i Leinster ond roedd chwarter awr ar ôl o hyd i’r Cymry ymateb.

Ond roedd Tom James a Matthew Morgan yn wastraffus yn y munudau olaf a bu rhaid i’w tîm fodloni ar bwynt bonws yn unig yn y diwedd wrth golli’r gêm o un pwynt.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn wythfed yn nhabl y Pro12.

.

Leinster

Ceisiau: Dan Leavy 4’, Luke McGrath 32’, Ross Molony 66’

Trosiadau: Ross Byrne 5’, 32’

Ciciau Cosb: Ross Byrne 54’

.

Gleision

Ceisiau: Tomos Williams 11’, 47’, Sion Bennett 56’

Trosiadau: Steve Shingler 12’, 48’, 56’