George North (Llun: Undeb Rygbi Cymru)
Does dim tystiolaeth ar gael i brofi honiadau asgellwr Cymru, George North, iddo gael ei frathu yn ystod gêm Cymru yn erbyn Ffrainc dros y penwythnos.

Cadarnhaodd swyddogion y Chwe Gwlad nad oedd y deunydd fideo yn cynnig digon o dystiolaeth i gymryd unrhyw gamau pellach gyda’r achos.

“Nid yw’r comisiynydd wedi dod i gasgliad fod unrhyw unigolyn penodol wedi cyflawni gweithred o chwarae’n fudr,” meddai datganiad gan swyddogion Rygbi’r Chwe Gwlad.

“…Mae Rygbi’r Chwe Gwlad yn disgwyl mai dyma fydd diwedd ar y mater o ran y brathiad honedig.”

Mae’r gêm yn Stade de France ym Mharis wedi denu tipyn o ymateb wedi i’r dyfarnwr, Wayne Barnes, barhau â’r chwarae gyda thua 20 munud o amser ychwanegol.