Mae Iwerddon wedi atal tîm rygbi Lloegr rhag ennill y Gamp Lawn ar ddiwrnod olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Y Gwyddelod oedd yn fuddugol o 13-9 yn Stadiwm Aviva i ddod â rhediad di-guro’r Saeson o 18 buddugoliaeth i ben.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Seland Newydd yn cadw eu record o 19 buddugoliaeth o’r bron, a bod Lloegr wedi colli’r cyfle i ennill dwy Gamp Lawn yn olynol.