Ffrainc 20-18 Cymru

Cipiodd Ffrainc fuddugoliaeth gyda chais hynod hwyr yn y Stade de France wrth i Gymru golli eu gêm olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor hwn.

Roedd Cymru ar y blaen am ran helaeth o’r ail hanner ond cipiodd y tîm cartref fuddugoliaeth ddramatig gyda throsgais ugain munud wedi i’r cloc droi’n goch!

Dechreuodd Ffrainc yn dda ac roeddynt saith pwynt ar y blaen wedi saith munud wedi i Remi Lamerat gasglu cic fach ddeuheig Camille Lopez dros yr amddiffyn i groesi o dan y pyst.

Ychwanegodd Lopez gic gosb yn dilyn sgrym gref i roi deg pwynt rhwng y ddau dîm wedi chwarter awr.

Daeth Cymru fwyfwy i’r gêm wedi hynny a threuliodd Ffrainc ddeg munud yn chwarae gyda phedwar dyn ar ddeg wedi cerdyn melyn i Virimi Vakatawa am daro’r bêl ymlaen yn fwriadol.

Pwynt a oedd ynddi ar yr egwyl diolch i dair cic gosb o droed Leigh Halfpenny, un ohonynt yn fynydd o gic o’r 50 medr a mwy.

Ychwanegodd Halfpenny ddwy gic enfawr arall yn 25 munud cyntaf yr ail hanner ac roedd Cymru ar y blaen ac yn gymharol gyfforddus.

Cyfnewidiodd Lopez a Halfpenny dri phwynt arall yr un wedi hynny ac roedd gan Gymru bump pwynt o fantais wrth i’r cloc droi’n goch.

Drama hwyr

Ond hanner y stori yn unig a oedd yr wyth deg munud cyntaf, daeth rhan helaeth o ddrama’r gêm mewn ugain munud arall ar y diwedd.

Cafwyd cyfres hir o giciau cosb a sgrymiau i Ffrainc yng nghysgod pyst Cymru. Cafwyd anaf amheus iawn i un o brops Ffrainc a cherdyn melyn i brop Cymru, Samson Lee.

Ac yn y diwedd, gyda 99 munud ar y cloc, fe gafwyd cais. Aeth y pwysau’n ormod i Gymru ac fe hyrddiodd yr eilydd flaenasgellwr, Damien Chouly, drosodd i unioni’r sgôr.

Rhoddodd hynny drosiad syml i Lopez i ennill y gêm i’r Ffrancwyr ac mae Cymru’n gorffen yn bumed yn nhabl y Chwe Gwlad gyda dim ond dwy fuddugoliaeth o bump gêm.

.

Ffrainc

Ceisiau: Remi Lamerat 7’,  Damien Chouly 80+20’

Trosiadau: Camille Lopez 8’, 80+20’

Ciciau Cosb: Camille Lopez 16’, 67’

.

Cymru

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 20’, 28’, 40’, 53’ 65’, 72’

Cerdyn Melyn: Samson Lee 80’