Roedd meibion dau o gewri Ffrainc yn allweddol ym muddugoliaeth y tîm rygbi dan 20 dros Gymru ym Montauban neithiwr.

Collodd Cymru o 40-20 wrth i Ffrainc ymestyn eu rhediad di-guro i 11 o gemau.

Roedd Ffrainc ar ei hôl hi o 13 pwynt cyn i Romain Ntamack, mab Emile, ac Alex Roumat, mab y cyn-gapten Olivier, reoli’r gêm i ennill yn gyfforddus yn y pen draw.

Sgoriodd y ddau gais yr un, ac fe ychwanegodd Romain Ntamack bum trosiad at ei gyfanswm i orffen gyda 15 o bwyntiau.

Cymru aeth ar y blaen gyda chais gan yr wythwr Aled Ward, ac fe ychwanegodd Ben Jones drosiad a dwy gic gosb cyn i Ffrainc ymateb tua diwedd yr hanner cyntaf.

Aeth Cymru i lawr i 14 dyn ar ôl i Rhun Williams fynd i’r cell cosb am dacl uchel, ac fe sgoriodd Ffrainc ddau gais yn y cyfamser fel eu bod nhw ar y blaen o 14-13 ar yr hanner.

Sgoriodd y mewnwr Baptiste Couilloud gais cyn i Romain Ntamack groesi am ei gais yntau.

Sgoriodd Alex Roumat gais ar ôl 50 munud wrth i Ffrainc ddechrau rheoli’r gêm, ac fe gafodd y Ffrancwyr ddau gais arall yn fuan wedyn drwy Pablo Uberti a Geoff Cros.

Daeth chweched gais drwy Theo Millet cyn i seithfed cais posib gael ei gwahardd gan y swyddog teledu.

Daeth cais hwyr i Gymru drwy’r eilydd o faswr Arwel Robson yn yr eiliadau olaf cyn iddo drosi’r cais.

Ar ddiwedd y gêm, dywedodd y prif hyfforddwr Jason Strange fod ei dîm wedi “dysgu tipyn” o’r profiad.