Rhys Webb
Er bod y gwybodusion yn disgwyl i Rhys Webb fod yng ngharfan y Llewod ar gyfer y daith i Seland Newydd yr Haf hwn, mae’r chwaraewr wedi dweud ei fod yn canolbwyntio ar chwarae yn dda i’w wlad yfory.

Mae Cymru yn herio Ffrainc ym Mharis ac mae mewnwr y Gweilch wedi serennu hyd yma ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ond ag yntau wedi methu Cwpan y Byd 2015 a thalp o gemau rhyngwladol y llynedd oherwydd anaf, nid yw Rhys Webb yn meddwl am unrhyw beth heblaw gornest ola’r Bencampwriaeth ym Mharis yfory.

“Fe fyddai chwarae i’r Llewod yn uchafbwynt – dyna binacl gyrfa unrhyw un – ond nid ydw i wedi rhoi eiliad o feddwl i’r peth, a dyna’r gwir.

“Fedrwch chi ddim ystyried y peth ormod… rydw i’n gwybod sut beth ydy o i fethu allan ar y math yma o bethau.

“Fedrwch chi ddim edrych y tu hwnt i’r gêm fawr yn erbyn Ffrainc y penwythnos hwn.”

Yn dilyn y fuddugoliaeth 22-9 gartref yn erbyn Iwerddon nos Wener ddiwethaf, mae’r Cymry yn disgwyl gêm gorfforol arall draw yn Ffrainc yfory, gyda’r gic gyntaf am 2.45 yr hwyr.

Yr hanes diweddar

Mae’r Cymry wedi curo eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Pe baen nhw yn curo yfory, dyna fyddai’r tro cyntaf iddyn nhw guro chwe gêm yn olynol yn erbyn Ffrainc ers 1957.

Hefyd, dyma’r tro cyntaf y bydden nhw wedi ennill oddi cartref deirgwaith yn olynol yn Ffrainc ers hanner canrif.

Mae Ffrainc wedi ennill saith o’u deg gêm gartref ddiwethaf yn y Chwe Gwlad.