George North (llun: Undeb Rygbi Cymru)
Mae hyfforddwr dros dro Cymru, Rob Howley, wedi canmol perfformiad ‘anhygoel’ gan chwaraewyr y tîm cenedlaethol wrth guro Iwerddon 22-9 neithiwr.

“Dw i’n falch iawn o’r chwaraewyr,” meddai.

“Maen nhw wedi bod yn wych ers gêm yr Alban, maen nhw wedi bod yn onest iawn wrth bwyso a mesur y ffordd y gwnaethon nhw chwarae yn 15-20 munud cyntaf yr ail hanner ym Murrayfield.

“Roedd arnyn nhw eisiau rhoi perfformiad y gallen nhw fod yn falch ohono i’r cefnogwyr gorau mewn rygbi rhyngwladol.

“Fe wnaethon nhw hynny yn sicr. Fe wnaethon nhw ragori ar un o dimau rygbi gorau’r gyd o dri chais i ddim, ac fe wnaeth ein hamddiffyn ni eu cadw nhw draw.”

‘Chwaraewr o’r radd flaenaf’

Ar ôl cael ei feriniadu am ei berfformiad yng Nghaeredin, llwyddodd George North i adennill ei enw da neithiwr trwy sgorio dau o dri chais Cymru.

“Mae George North yn chwaraewr rhyngwladol o’r radd flaenaf,” meddai Rob Howley.

“Mae pawb ohonon ni’n cael gemau gwael a George yw’r cyntaf i gyfaddef hynny ar ôl gêm yr Alban.

“Fe ddywedodd ‘rhaid imi wneud yn well’ ac fe wnaeth hynny’n sicr.

“Fe ddangosodd hyder, a phan mae o fewn pum metr, mae’n anodd iawn ei rwystro. Roedd y cais yn yr ail hanner yn chwarae medrus iawn.”