George North
Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Iwerddon, Joe Schmidt wedi dweud na fydd ei dîm yn targedu gwendidau amddiffynnol George North ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd nos Wener.

Cafodd yr asgellwr rybudd gan is-hyfforddwr Cymru, Shaun Edwards ddechrau’r wythnos fod rhaid i’w berfformiadau amddiffynnol wella ar ôl y golled o 29-15 yn erbyn yr Alban bythefnos yn ôl.

Ond mae Joe Schmidt wedi cyfaddef iddo gael ei synnu ynghylch y feirniadaeth gafodd George North ar ôl y gêm honno.

“Os ydych chi wedi gweld maint, cryfder, cyflymdra ac ystwythder dyn mor fawr, pam fyddech chi’n mynd ar ôl George North?”

Mae Joe Schmidt hefyd wedi canmol canolwyr Cymru, Jonathan Davies a Scott Williams, yn ogystal â’r asgellwr Liam Williams.

“Mae gyda nhw dipyn o fygythiadau drwyddi draw a dw i ddim yn credu ein bod ni’n mynd i fod yn fodlon edrych am George North i weld os yw ei gêm amddiffynnol yn ddigon da oherwydd ry’n ni wedi ei weld e’n gwneud yn arbennig o dda yn amddiffynnol.”

To’r stadiwm

Dydy hi ddim yn glir eto a fydd to’r stadiwm ar agor nos Wener, ond Iwerddon fydd yn cael penderfynu hynny yn y pen draw gan fod rhaid i’r ddau dîm gytuno er mwyn ei gau.

Mae lle i gredu y byddai’n well gan Iwerddon ei gadw ar agor.

“Os yw hi’n braf, fyddai ychydig iawn o ddiben cau’r stadiwm,” meddai Joe Schmidt.  “Mae’r cae yn gallu bod yn llithrig pan fo’r to ynghau. Fe wnawn ni benderfyniad pan fyddwn ni yno.”

Tîm Iwerddon

Daeth cadarnhad na fydd canolwr Iwerddon, Jared Payne ar gael ar gyfer y gêm, tra bod Cymru wedi cyhoeddi yr un tim a gollodd 29-13 yn erbyn yr Alban yn Murrayfield.

Tîm Iwerddon: R Kearney; K Earls, G Ringrose, R Henshaw, S Zebo; J Sexton, C Murray; J McGrath, R Best (capten), T Furlong; D Ryan, D Toner; CJ Stander, S O’Brien, J Heaslip.

Eilyddion: N Scannell, C Healy, J Ryan, I Henderson, P O’Mahony, K Marmion, P Jackson, T Bowe