Hanner canfed cap i Justin Tipuric (Llun o wefan Undeb Rygbi Cymru)
Er iddyn nhw golli o 29-13 yn erbyn yr Alban ym Murrayfield bythefnos yn ôl, yr un pymtheg fydd yn nhîm rygbi Cymru i wynebu Iwerddon yng Nghaerdydd nos Wener.

Fe fydd y blaenasgellwr Justin Tipuric yn ennill ei hanner canfed cap dros Gymru ac yn cadw cwmni iddo fe yn y rheng ôl fydd y cyn-gapten Sam Warburton a’r wythwr Ross Moriarty.

Mae’r prif hyfforddwr dros dro, Rob Howley wedi amddiffyn ei ddewisiadau, gan ddweud ei bod hi’n “bwysig” fod yr un chwaraewyr yn cael cyfle i wneud yn iawn am y golled yn erbyn yr Alban.

“Roedden ni’n credu ei bod hi’n bwysig fod yr un grŵp o chwaraewyr yn cael y cyfle i fynd allan a pherfformio nos Wener felly r’yn ni wedi enwi’r un garfan heb newidiadau.

“Mae nos Wener yn gyfle i ni. Mae tipyn o brofiad yn ein grŵp a dydych chi ddim yn dod yn dîm gwael dros nos.”

Tîm Cymru: Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Liam Williams; Dan Biggar, Rhys Webb; Rob Evans, Ken Owens, Tomas Francis; Jake Ball, Alun Wyn Jones; Sam Warburton, Justin Tipuric, Ross Moriarty.

Eilyddion: Scott Baldwin, Nicky Smith, Samson Lee, Luke Charteris, Taulupe Faletau, Gareth Davies, Sam Davies, Jamie Roberts.