Leinster 45–9 Scarlets

Cafodd y Scarlets grasfa go iawn wrth iddynt deithio i’r RDS i wynebu Leinster yn y Guinness Pro12 nos Sadwrn.

Cadwodd Bois y Sosban o fewn cyrraedd y Gwyddelod yn y deugain munud cyntaf ond llwyr reolodd Leinster yr ail hanner gan fynd â’r gêm ym mhell o afael y Cymry.

Leinster a oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf hefyd ac roeddynt yn llawn haeddu bod ar y blaen ar yr egwyl diolch i ddau gais Luke McGrath.

Sgoriodd y mewnwr ei gyntaf wedi sgrym bump gref gan ei flaenwyr a’i ail ar ôl taro cic Dan Jones i lawr.

Er gwaethaf goruchafiaeth y Gwyddelod, tri phwynt yn unig a oedd yn gwahanu’r ddau dîm wrth droi diolch i dair cic gosb o droed Dan Jones, 12-9 y sgôr.

Parhau i reoli’r gêm a wnaeth Leinster wedi’r egwyl a buan iawn y dechreuodd y sgôr adlewyrchu hynny.

Hyrddiodd Rhys Ruddock drosodd am drydydd cais y tîm cartref wedi cyfnod hir o bwyso cyn i amddiffyn blitz hynod effeithiol y Gwyddelod arwain at y pedwerydd i Joey Carbery.

Gyda’r pwynt bonws yn ddiogel fe ddechreuodd Leinster fwynhau eu hunain a daeth y ddau gais nesaf o ddwy gic letraws Ross Byrne i Adam Byrne. Arweiniodd un at ail gais Carbery a’r llall at gais i Byrne arall, Ed y prop.

Roedd digon o amser am un cais arall i Jamison Gibson-Park yn yr eiliadau olaf i goroni perfformiad gwych gan y Gwyddelod.

Mae’r canlyniad yn codi Leinster yn ôl dros y Gweilch i frig y Pro12 ac yn cadw’r Scarlets yn y pedwerydd safle.

.

Leinster

Ceisiau: Luke McGrath 10’, 21’, Rhys Ruddock 48’, Joey Carbery 51’, 54’, Ed Byrne 58’, Jamison Gibson-Park 80′

Trosiadau: Ross Byrne 10’, 49’, 52’, 60’, 80′

.

Scarlets

Ciciau Cosb: Dan Jones 3’, 16’, 29’