Caeredin 9–13 Gweilch
Cododd y Gweilch i frig tabl y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth dros Gaeredin ym Myreside nos Wener.
Josh Matavesi a sgoriodd unig gais y noson yn yr hanner cyntaf wrth i’r Cymry fynd â hi mewn gêm agos.
Cyfartal a oedd hi wedi deunaw munud ar ôl i Duncan Weir a Sam Davies gyfnewid cic gosb yr un.
Daeth trobwynt y gêm yn fuan wedi hynny wrth i Matavesi groesi am unig gais y gêm hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, y canolwr yn tirio o dan y pyst wedi i ddwylo gwych Sam Davies ei ryddhau trwy’r canol.
Ychwanegodd Davies y trosiad hefyd ac roedd y Gweilch saith pwynt ar y blaen ar yr egwyl.
Caeodd Weir y bwlch i bedwar pwynt toc wedi’r awr cyn i Davies adfer saith pwynt o fantais yr ymwelwyr yn fuan wedyn.
Roedd digon o amser i Weir gicio tri phwynt arall i’r Albanwyr ond roedd y Gweilch wedi gwneud digon i sicrhau’r fuddugoliaeth, 9-13 y sgôr terfynol.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Cymry dros Leinster i frig y Pro12, ond gall y Gwyddelod godi drostynt gyda buddugoliaeth dros y Scarlets nos Sadwrn.
.
Caeredin
Ciciau Cosb: Duncan Weir 15’, 63’, 72’
.
Gweilch
Cais: Josh Matavesi 20’
Trosiad: Sam Davies 21’
Ciciau Cosb: Sam Davies 18’, 69’