Stephen Jones (Llun: Y Scarlets)
Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Stephen Jones, wedi arwyddo cytundeb i fod yn hyfforddwr cynorthwyol y Scarlets.

Dyw’r rhanbarth yn Llanelli heb ddatgelu hyd contract y cyn-faswr 39 oed, ond mae wedi arwyddo dyddiau ar ôl i Ioan Cunningham, yr hyfforddwr cynorthwyol gytuno i estyn ei gytundeb â’r tîm.

Fe wnaeth Stephen Jones ymuno â thîm hyfforddi’r Scarlets yn 2015.

Fel chwaraewr, enillodd 104 o gapiau dros Gymru a chwaraeodd mewn chwe phrawf ar gyfer y Llewod.

Roedd hefyd wedi chwarae dros 300 o weithiau dros Lanelli a’r Scarlets.

“Mae Stephen yn weithiwr diflino, ac mae ei frwdfrydedd, yn ogystal â’i allu technegol a thactegol, yn dylanwadu ar y bechgyn, ac mae hynny’n amlwg ar y cae ac oddi arno,” meddai prif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac.