Ar ôl mynd ar y blaen o 14-0, bu’r Gweilch ar ei hôl hi am gyfnod byr yn yr ail hanner, ond sicrhawyd y pum pwynt gan geisiau Tyler Ardron a Kieron Fonotia.

Gwyddai’r Gweilch y byddai buddugoliaeth yn eu codi uwchben Munster, a gollodd yn erbyn y Scarlets ar y nos Wener, ac roedden nhw ar y blaen o fewn deng munud wedi i Keelan Giles sgorio ei 12fed cais mewn 11 gêm.

Ychwanegodd Josh Matavesi gais arall 12 munud yn ddiweddarach, a Luke Price yn trosi’r ddau’n llwyddiannus.

Aeth Glasgow ar y blaen am ychydig diolch i geisiau Peter Murchie a Corey Flynn, a chic gosb lwyddiannus Brandon Thomson, cyn i geisiau Ardron a Fonotia ei hennill hi i’r Gweilch.