Munster 21–30 Scarlets

Sgoriodd y Scarlets dri chais mewn chwe munud wrth iddynt daro nôl i guro Munster ar Barc Thomond yn y Guinness Pro12 nos Wener.

Roedd y Gwyddelod bymtheg pwynt ar y blaen ar yr egwyl ond brwydrodd yr ymwelwyr o Gymru nôl gyda thri chais yn yr ail hanner.

Dwy gic gosb o droed Dan Jones a oedd unig bwyntiau’r Scarlets yn yr hanner cyntaf a sefydlodd Munster fantais iach gyda cheisiau Jaco Taute, Darren Sweetman a Conor Oliver ynghyd â thri trosiad Tyler Bleyndaal, 21-6 y sgôr wrth droi.

Caeodd Jones y bwlch i ddeuddeg pwynt gyda’i drydedd cic gosb yn gynnar yn yr ail hanner cyn i’r gêm droi wyneb i waered gyda thri chais cyflym i’r Cymry.

Croesodd Hadleigh Parkes i ddechrau cyn i Johnny McNicholl a DTH van der Merwe ychwanegu dau arall hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Llwyddodd Jones gyda’r tri throsiad gan orffen gyda phymtheg pwynt wrth i’w dîm ennill y gêm, 21-30.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Scarlets yn bedwerydd yn nhyabl y Pro12 gyda chwe gêm yn weddill.

.

Munster

Ceisiau: Jaco Taute 12’, Darren Sweetman 22’, Conor Oliver 29’

Trosiadau: Tyler Bleyndaal 13’, 24’, 30’

.

Scarlets

Ceisiau: Hadleigh Parkes 55’, Johnny McNicholl 58’, DTH van der Merwe 61’

Trosiadau: Dan Jones 56’, 59’, 62’

Ciciau Cosb: Dan Jones 2’, 15’, 52’