Caeredin 17–18 Gleision

Tarodd y Gleision nôl i gipio buddugoliaeth dda yn erbyn Caeredin yn y Guinness Pro12 nos Wener.

Treuliodd y Cymry ran helath o’r gêm ar ei hôl hi ym Myreside cyn cipio’r fuddugoliaeth gyda chais hwyr Lloyd Williams.

Ciciodd Steve Shingler yr ymwelwyr o Gymru dri phwynt ar y blaen ond Caeredin a gafodd gais cyntaf y gêm wedi chwarter awr o chwarae.

Gyda bachwr y Gleision, Anton Peikrishvili, yn y gell gosb, fe giciodd Caeredin at y gornel a sgorio gyda sgarmes symudol o’r lein bump. Y capten, Neil Cochrane, a gafodd y cais ac roedd ei dîm bedwar pwynt ar y blaen wedi trosiad Sam Hidalgo-Clyne.

Caeodd Shingler y bwlch i bwynt gyda’i ail gic gosb hanner ffordd trwy’r hanner ac felly yr arhosodd y sgôr tan yr egwyl er i’r Gleision dreulio deg munud arall i lawr i bedwar dyn ar ddeg wedi cerdyn melyn Jarrad Hoeata.

Yr Albanwyr a ddechreuodd yr ail hanner orau gyda dau gais i Rory Scholes yn rhoi mantais iach iddynt.

Cafodd yr asgellwr cartref y gorau o Matthew Morgan i groesi am ei gyntaf yn y gornel dde cyn plymio drosodd am ei ail yn y gornel chwith ychydig funudau’n ddiweddarach.

Roedd y Gleision un pwynt ar ddeg ar ei hôl hi felly gyda chwarter y gêm yn weddill ond wnaeth y Cymry ddim rhoi’r ffidl yn y to.

Roeddynt yn ôl o fewn sgôr diolch i gais Josh Sion Bennett wedi gwaith da Lloyd Williams, Hoeata a Nick Williams.

Ac aethant ar y blaen gydag wyth munud yn weddill wrth i gic obeithiol Williams adlamau’n garedig iddo ef ei hun am gais o dan y pyst. Cafodd trosiad Shingler ei daro i lawr gan Gaeredin ond roedd y Gleision bwynt ar y blaen gydag ychydig funudau i fynd.

Bu rhaid i’r ymwelwyr oresgyn cryn dipyn o bywsau wedi hynny ond daliodd yr amddiffyn yn gryf i sicrhau buddugoliaeth dda.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gleision yn seithfed yn nhabl y Pro12.

.

Caeredin

Ceisiau: Neil Cochrane 16’, Rory Scholes 48’, 55’

Trosiadau: Sam Hidalgo-Clyne 17’

.

Gleision

Ceisiau: Josh Sion Bennett 61’, Lloyd Williams 72’

Trosiad: Steve Shingler 62’

Ciciau Cosb: Steve Shingler 9’, 21’

Cardiau Melyn: Anton Peikrishvili 15’, Jarrad Hoeata 31’