George North (Llun: Joe Giddens/PA)
Mae’n edrych yn debyg y bydd George North ar gael i herio’r Alban yng Nghaeredin ddydd Sadwrn, wrth iddo ymarfer gyda’r garfan heddiw.

Doedd yr asgellwr ddim ar gael adeg gêm Cymru yn erbyn Lloegr am ei fod yn dioddef o anaf i’w goes, ac fe gymerodd Alex Cuthbert ei le.

“Rydym ni’n bendant yn fwy iach nag oedden ni cyn wynebu Lloegr,” meddai’r hyfforddwr cynorthwyol, Shaun Edwards, wrth gyfeirio at y garfan gyfan.

“Mae George North wedi bod yn ymarfer heddiw ac mae’n ysu i fynd.”

Bydd Rob Howley yn enwi ei garfan ddydd Iau, lle bydd Taulupe Faletau hefyd yn ceisio am ei le wedi iddo ddioddef anafiadau’n ddiweddar.